Amdanom ni

Mae Tafol yn ymrwymiedig i ddatblygu adnoddau addysgol arloesol sy’n rhoi cyfle i ddisgyblion arbrofi a dysgu yn Gymraeg.
Trwy awduro, cyd-weithio a threialu gydag athrawon ac ysgolion blaengar rydym yn sicrhau ein bod yn creu adnoddau sy’n targedu anghenion y cwricwlwm. Rydym yn gweithio gyda rhaglennwyr profiadol a dylunwyr o’r safon uchaf i sicrhau ein bod yn creu deunydd o’r radd flaenaf.
Aps o safon

Gemau difyr wedi’u cynllunio i ddysgu ac atgyfnerthu geirfa ac ymadroddion thematig yn Gymraeg. Addas ar gyfer dysgwyr Cymraeg fel iaith ychwanegol yn ogystal â siaradwyr Cymraeg.

Cyfle i ddysgwyr ifanc i gwblhau gweithgareddau ar y fferm gydag Alun a’i ffrindiau. Mae hwyl i gael wrth ddyfalu pa anifail sydd yn y beudy, gwisgo’r arth a thynnu llun o’ch hun gydag Alun.

Dilyniant i'r ap Campau Cosmig. Gweithgareddau mwy heriol i ddatblygu sgiliau iaith a rhifedd. Yn cynnwys gêm casglu diamwntau.

Cyfle i ymarfer ac ehangu sgiliau iaith a rhifedd. Wrth gwblhau’r gweithgareddau gellir ennill amser er mwyn rhoi cynnig ar y sialens o gasglu diamwntau. Addas ar gyfer dysgwyr Cymraeg fel iaith ychwanegol yn ogystal â siaradwyr Cymraeg.