Cyfle i ddysgwyr ifanc i gwblhau gweithgareddau ar y fferm gydag Alun a’i ffrindiau. Mae hwyl i gael wrth ddyfalu pa anifail sydd yn y beudy, gwisgo’r arth a thynnu llun o’ch hun.
Cyfle i blant fagu hyder a mwynhau defnyddio’r iaith mewn ffordd ddiddorol a hwyliog.
Mae ystod o weithgareddau wedi eu lefelu ac yn addas ar gyfer plant rhwng 2 a 7 mlwydd oed.
Yn seiliedig ar y llyfr ‘Alun yr Arth ar y Fferm’ gan Morgan Tomos.






