Dewch i hwylio ‘Y Fellten Ddu’ a chwarae gemau Cymraeg i ennill trysor môr-ladron! Gemau difyr wedi’u cynllunio i ddysgu ac atgyfnerthu geirfa ac ymadroddion thematig yn Gymraeg. Addas ar gyfer dysgwyr a siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf o oed 7+.
Mae’r ap yn cynnwys gemau cyfatebu; llun a gair, llun a sain, a sain a gair. Gallwch hefyd lywio’r llong ar draws y môr gan gasglu trysor gyda phob ateb cywir.
Mae 10 thema i ddewis ohonynt –
Bwyd a Diod, Dillad, Anifeiliaid, Y Tywydd, Y Tŷ·, Siopa, Hobïau, Gwyliau, Yr Ysgol, Dathliadau
Gellir argraffu llyfryn canllawiau i gyd-fynd â’r ap.
Datblygwyd gan dîm o athrawon ail-iaith ond mae’n addas ar gyfer siaradwyr Cymraeg hefyd.
Noddwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.



