Mae Tafol yn dylunio a chreu apiau sydd yn afaelgar, yn ddeniadol a chanddynt sail addysgiadol cadarn.
Trwy awduro, cyd-weithio a threialu gydag athrawon ac ysgolion blaengar rydym yn sicrhau ein bod yn creu adnoddau sy’n targedu anghenion y  cwricwlwm.
Rydym yn gweithio gyda rhaglennwyr profiadol a dylunwyr o’r safon uchaf i sicrhau ein bod yn creu deunydd o’r radd flaenaf.
Rydym yn creu apiau sydd am ddim, felly peidiwch oedi … lawrlwythwch nhw nawr!